Dod o hyd i waith a hyfforddiant

Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd hyfforddi, ffyrdd o wella eich sgiliau a chael swydd.

Canolfan Byd Gwaith

Gallwch ddod o hyd i’ch Canolfan Byd Gwaith (mae’n agor mewn tab newydd) agosaf. Gallant hwy roi cymorth i’ch helpu i baratoi ar gyfer gwaith, dod o hyd i waith ac aros mewn gwaith.

Cyflogadwyedd a Sgiliau Sir Benfro

Os ydych yn chwilio am waith neu mae angen i chi wella'ch sgiliau i ddod o hyd i swydd, gallwch gael help gan raglen Cyflogadwyedd a Sgiliau Gwaith yn yr Arfaeth. Neu, os oes rhwystrau mwy cymhleth sy’n eich atal rhag cael cyflogaeth, gan gynnwys anabledd, cyflwr iechyd hirdymor neu anghenion cymorth ychwanegol, gallwch gael help gan y rhaglen Cefnogi Cyflogadwyedd.

Band eang rhad-ac-am-ddim i geiswyr gwaith

Gall ceiswyr gwaith gael chwe mis o fand eang o ansawdd da a hynny’n rhad ac am ddim gan TalkTalk (mae’n agor mewn tab newydd) heb yr angen am gontract na gwiriad credyd.

Gyrfa Cymru

Gallwch gael help gan Gyrfa Cymru (mae’n agor mewn tab newydd) i gynllunio eich gyrfa, paratoi i gael swydd, a dod o hyd i’r prentisiaethau, cyrsiau a hyfforddiant cywir ac ymgeisio amdanynt.

Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS)

Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth gyda chymorth PAVS (mae’n agor mewn tab newydd).

Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Diwydiannau Norman

Os oes gennych chi, neu os oes gan rywun yr ydych yn ei adnabod, anabledd neu gyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar y gallu i weithio, gallai’r Diwydiannau Norman helpu gyda phrofiad gwaith, hyfforddiant a gwasanaeth dydd seiliedig-ar-waith.

Cyfleoedd dysgu ar gyfer gofalwyr

Os ydych chi’n gofalu’n rheolaidd am berthynas, ffrind neu gymydog na fyddai’n gallu ymdopi heb eich help ac os nad ydych yn cael tâl am hynny yna rydych yn Ofalwr. Gallwch gael gwybod am y cyfleoedd dysgu (mae’n agor mewn tab newydd) i chi yn Sir Benfro.