Rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU

Gallwch weld pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i helpu gyda chostau byw a chael gwybod sut i arbed arian.

Llywodraeth Cymru

Gallwch gael cymorth a chyngor gan Lywodraeth Cymru  i’ch helpu gyda’r cynnydd mewn costau byw gan gynnwys budd-daliadau, biliau cyfleustodau, materion ariannol, tai, addysg, gofal plant a lles.

GOV.UK – Cymorth gyda chostau byw

Gallwch gael gwybod pa gymorth sydd ar gael i helpu gyda chostau byw ar GOV.UK . Mae hyn yn cynnwys budd-daliadau incwm ac anabledd, biliau a lwfansau, gofal plant, tai a theithio.

Help i Aelwydydd

Gallwch weld pa gymorth sydd ar gael gyda chostau byw a chael gwybod sut i arbed arian gydag awgrymiadau ar gyfer arbed ynni ar wefan Help for Households  GOV.UK.